Croesawa UCAC y cyfle hwn i ymateb i ymgynghoriad Paul Davies AC ar Fil Awtistiaeth (Cymru) arfaethedig.
Mae UCAC yn undeb sy’n cynrychioli darlithwyr, athrawon ac arweinwyr ym mhob sector addysg ledled Cymru. Rydym eisoes wedi ymateb ar y cyd ag undeb addysg NEU, ac mae’r ymateb hwn yn ychwanegol ato. Bydd ein hymateb yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc o fewn y system addysg.
Mae rhai o’n haelodau sy’n arbenigo ym maes anghenion dysgu ychwanegol a/neu gyflyrau dwys a chymhleth, yn dadlau o blaid agwedd gynhwysol at bob gwahaniaeth dysgu yn hytrach na chreu deddfwriaeth ar gyfer un cyflwr yn benodol.
Wrth gwrs, mae hynny’n cyfeirio at y drefn o fewn y system addysg, ac nid yw’n ymwneud â’r sefyllfa ehangach mewn perthynas â phobl ar y sbectrwm awtistiaeth, ble allai fod dadleuon gwahanol.
Mae’r sefyllfa’n gallu bod yn gymhleth.
O ran plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn diagnosis, mae ein haelodau’n adrodd nad oes cysondeb ynghylch p’un ai ydynt yn cael Datganiad neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy (SAPRA), sydd yn ei dro yn golygu lefelau gwahanol o ariannu. I ryw raddau, mae’n bosib y caiff hyn ei ddatrys gan y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) arfaethedig, er y bydd dal i fod cwestiynau ynghylch p’un ai’r ysgol neu’r Awdurdod Lleol fydd yn ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb.
Rhaid bod yn ymwybodol yn ogystal, nad yw pob unigolyn sydd ar y sbectrwm awtistiaeth yn gofyn am ddiagnosis, a gall hynny effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael a’r dulliau gweithredu mewn perthynas â’r plentyn/person ifanc.
Mae angen bod yn ymwybodol o’r anawsterau o ran cael darpariaeth arbenigol, gan gynnwys asesiadau diagnostig, trwy gyfrwng y Gymraeg. Petai’r Bil hwn yn symud ymlaen, byddem yn pwyso am gynnwys cymalau fyddai’n sicrhau'r fath ddarpariaeth.
Rydym wedi derbyn rhywfaint o wybodaeth anecdotaidd gan aelodau fod gwasanaethau awtistiaeth wedi gwella yn ystod y blynyddoedd o ran hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth. Un enghraifft yw’r rhaglen hyfforddiant at gyfer cael pencampwyr awtistiaeth ym mhob ysgol.
Unwaith eto, rhaid bod yn ymwybodol mai dim ond pobl â diagnosis fyddai’n cael eu cynnwys mewn ymarfer casglu data o’r fath.